One of the Welsh language's most prominent poets, Gerallt Lloyd Owen, has died following a short illness.
Born in Sarnau, Gwynedd, he won the Urdd Eisteddfod three times and the National Eisteddfod chair twice.
The 69-year-old was known for his hard-hitting political poems and was also the former presenter of the Radio Cymru poetry competition, Talwrn y Beirdd.
He was also a primary school teacher before setting up the Gwasg Gwynedd printing press in 1972.
'Never be replaced'
"The National Eisteddfod of Wales is saddened by the news, and offer their condolences to his family at this difficult time," said a spokesperson for the Welsh cultural festival.
Folk singer and language campaigner Dafydd Iwan said Owen's "poetry will always speak to Wales and for Wales".
"Gerallt was the voice of his generation and he put into strict metre what some of us believed in the sixties and seventies," he said.
"That can never be replaced because he expressed our inner most thoughts and aspirations and really put us to the test."
Gerallt Lloyd Owen wedi marw
Mae'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen wedi marw yn 69 oed.
Fe gadarnhaodd ei deulu'r newyddion, gan ddweud ei fod wedi marw yn yr ysbyty am 3.30pm yn dilyn salwch byr.
Roedd yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru am 32 mlynedd.
Fe'i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd, ym mis Tachwedd 1944 a'i addysgu yn Ysgol Y Sarnau; Ysgol Tytandomen, Y Bala a'r Coleg Normal, Bangor.
Bu'n athro yn Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Ysgol Glyndwr, Pen-y-Bont ar Ogwr ac Ysgol Gymraeg Y Betws cyn mynd ati i sefydlu Gwasg Gwynedd yn 1972.
Bu'n gyfrifol am ddylunio a chyhoeddi'r comics Cymraeg, Yr Hebog a Llinos yn ogystal â chwech o lyfrau ar gyfer plant.
'Fy Nghawl Fy Hun'
Meistrolodd y cynganeddion yn gynnar iawn ac fe gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Ugain Oed a'i Ganiadau fel mae'r teitl yn awgrymu, pan yn ifanc iawn.
Gyda'i ail gyfrol Cerddi'r Cywilydd (1972) y daeth i wir amlygrwydd fel bardd ac fe wnaeth ei drydedd gyfrol o gerddi, Cilmeri a Cherddi Eraill, ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992.
Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1962, 1965 ac 1969 a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1982.
Yn 1999 cyhoeddodd ei hunangofiant, Fy Nghawl Fy Hun, sef hanes chwarter canrif cyntaf ei fywyd.
'Colli cawr'
Mewn teyrnged ar raglen Post Prynhawn BBC Cymru, fe ddywedodd y Prifardd Meirion MacIntyre Huws fod marwolaeth Gerallt Lloyd Owen yn golled enfawr.
"Nawn ni byth, byth weld rhywun tebyg i Gerallt eto, dyna'r math o golled. "
Fe ddywedodd ein bod fel cenedl wedi colli cawr o ran llenyddiaeth.
"Mi roedd o'n cyrraedd clustiau pawb, yn creu argraff ar bawb, roedd o'n mynd â barddoniaeth gam ymhellach a chyrraedd pobl ar lawr gwlad.
"Does dim rhai i chi gael doethuriaeth yn y Gymraeg i ddeall barddoniaeth Gerallt... a dyna un o'i gampau mawr o."
'Dawn a gweledigaeth'
Fe ddywedodd y cyn Archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones wrth BBC Cymru:
"Fe wnaeth Gerallt gyfraniad eithriadol o sylweddol i lenyddiaeth Cymru.
"Fe ddangosodd o ddawn a gweledigaeth arbennig iawn. Bob tro roedd o'n gwneud unrhywbeth roedd 'na sglein a dyfnder arbennig i'r mynegiant.
"Pan 'da ni'n son am wir feirdd - dau enw sy'n dod i'r meddwl - Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen."
Bu Gerallt Lloyd Owen yn Feuryn ar Ymryson y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru am flynyddoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod:
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymateb gyda thristwch i'r newyddion, ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu ar yr adeg anodd yma."
'Hiwmor parod'
Fe ddywedodd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys:
"Trist iawn oedd clywed am golli un o leisiau unigryw a dawnus Cymru y Prifardd Gerallt Lloyd Owen.
"Fe fu'n llais Y Talwrn ar Radio Cymru am 32 o flynyddoedd. Fel y dywedodd e'i hun wrth roi'r gorau i bwyso a mesur gwaith y beirdd, fe fu'n Feuryn am hanner ei oes.
"Roedd ei gyfraniad i'r orsaf yn aruthrol, a'r beirdd a'r gwrandawyr fel ei gilydd yn elwa o'i sylwadau treiddgar, crafog a'i hiwmor parod.
"Fe wnaeth yn gwbwl siwr bod yna le canolog i farddoniaeth ar Radio Cymru ac mae'r cyfraniad enfawr hwnnw i'w deimlo fyth."
'Bardd hyd flaenau ei fysedd'
Meddai Alun Ffred Jones AC:
"Ym marwolaeth Gerallt Lloyd Owen, mae Cymru wedi colli un o'i beirdd mwyaf.
"Roedd Cerddi'r Cywilydd yn gampwaith oedd yn crisialu teimladau ei genhedlaeth am wleidyddiaeth a'r Gymraeg.
"Roedd yn fardd hyd flaenau ei fysedd ond yn ogystal â hyn fe wnaeth gyfraniad mawr fel golygydd comic Cymraeg Yr Hebog, ac fel cyhoeddwr."